P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Kaiesha Ceryn Page, ar ôl casglu 117 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​Dylai addysg roi'r sgiliau a'r offer i bobl ifanc a fydd yn sicrhau eu bod yn dod yn ddinasyddion gwerthfawr sy'n ymgysylltu â'r wlad.

 

Er gwaethaf y datblygiadau mawr sydd wedi digwydd yn sgil y cyfryngau cymdeithasol a chylchoedd newyddion cyflym, mae pobl ifanc yn aml yn ystyried gwleidyddiaeth yn bwnc tabŵ, gan ei weld fel mater nad ydyw i'w tebyg hwy.

 

Rydym yn credu y dylai pobl ifanc adael addysg gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o sefydliadau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Argymhellodd adroddiad y Gymdeithas Diwygio Etholiadol y dylid addysgu pedair agwedd allweddol mewn ysgolion – y pleidiau, democratiaeth, rôl sefydliadau ac ymgyrchu.

 

Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle unigryw i arwain y ffordd ar y mater hwn gan ei bod wrthi'n datblygu ei chwricwlwm cenedlaethol cyntaf. Fel un o'i bedwar cysyniad allweddol, nod y cwricwlwm newydd yw creu dinasyddion "moesegol a gwybodus". Felly mae rheswm yn dweud y dylai addysg wleidyddol fod yn rhan hanfodol o hyn.

 

Mae datblygiad y cwricwlwm hwn yn gyfle unigryw i Lywodraeth Cymru chwyldroi'r ffordd y mae'n addysgu ei phobl ifanc, gan greu'r dinasyddion a fydd yn arweinwyr y dyfodol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Rhondda

·         Canol De Cymru